作词 : Lisa Jên
作曲 : Lisa Jên/Martin Hoyland
Gad o’i grio
Mae hi’n fendigedig
Mae o’n brifo
Cheith o byth ei gweld hi eto
Gad o’i wingo
Tydi o methu ffeindio
Ll’gada’n sgleinio
Yr un fu’n gwylio
Nath hi erioed ddeud c’lwydda, hogyn bach
Chdi a hi a’r eira cynta
Wyt ti’n cofio?
Cofio?
Wyt ti’n cofio?
Cofio?
Gad o’i gysgu
I gofio hi yn gwenu
Gwyliadwrus
A’i gadw mor ddihangol
O, pwy fydd yna
I warchod dan y sêr?
O, gad o’i grio
Mae’r galar yn ei ladd